Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 19 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
08.49 - 10.50 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Christine Chapman AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Ann Jones AC Julie Morgan AC Nick Ramsay AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Caroline Turner, Llywodraeth Cymru Sanjiv Vedi, Llywodraeth Cymru Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Nicola Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Richard Bettley (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black AC.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn gofyn am eglurhad ar y ffigyrau o amgylch y diogelwch a gynigir i'r Gyllideb Llywodraeth Leol.
3 Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 10
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Nicola Williams, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar ei ymchwiliad i Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
3.2 Cytunodd Nicola Williams i ddarparu copi o'r llythyr at gleifion yn amlinellu proses gwynion y byrddau iechyd a throi am gymorth at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
3.3 Cytunodd Kate Chamberlain i ddarparu ffigurau ar y sector gofal iechyd annibynnol yng Nghymru a nifer yr unedau preifat o fewn sefydliadau'r GIG.
4 Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 11
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Caroline Turner a Sanjiv Vedi, Llywodraeth Cymru ar ei ymchwiliad i Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Blaenraglen Waith
7.1 Cytunodd yr Aelodau ar y rhaglen waith ar gyfer tymor yr haf. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ynghylch Trethi Busnes.
8 Casglu trethi datganoledig: Dull o gynnal y gwaith craffu
8.1 Trafododd yr Aelodau y dull o gynnal y gwaith craffu ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor i Gasglu Trethi Datganoledig.